Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 6 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.18 - 14.06 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200000_06_03_2014&t=0&l=cy http://www.senedd.tv/archiveplayer.jsf?v=cy_200001_06_03_2014&t=0&l=cy |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees (Cadeirydd) Leighton Andrews Rebecca Evans Janet Finch-Saunders Elin Jones Lynne Neagle Lindsay Whittle |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Clare Bath, Ymchwil Canser y DU Dr Tom Crosby, Canolfan Ganser Felindre Emma Greenwood, Ymchwil Canser y DU Bernadette McCarthy, Canolfan Ganser Felindre Buddug Cope, Cynghrair Geneteg y DU Emma Hughes, Cynghrair Geneteg y DU Hayley Norris, Patient Representative Gwyn Tudor, MediWales Deborah Evans, Rhwydwaith Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr Professor Carl Heneghan, Canolfan Meddygaeth Seiliedig ar Dystiolaeth, Prifysgol Rhydychen Dr Corinne Squire, Partneriaeth Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru
Lars Sundstrom, Rhwydwaith Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Sarah Sargent (Dirprwy Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, Gwyn Price a Kirsty Williams.
2 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 8
2.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Rhoddodd Emma Greenwood wybod i'r Pwyllgor am y cydweithrediad diweddar rhwng Cancer Research UK a GIG Lloegr a oedd yn gofyn i grwpiau perthnasol o fewn y diwydiant sut roeddent yn rhagweld maes radiograffeg mewn deng mlynedd. Cytunodd Ms Greenwood i rannu gwybodaeth am y gwaith hwn gyda'r Pwyllgor.
3 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 9
3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd Buddug Cope i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y cyswllt rhwng rhaglen technoleg iechyd NICE a Rhwydwaith Profi Geneteg y DU (UKGTN).
3.3 Cytunodd Ms Cope hefyd i roi eglurhad pellach i'r Pwyllgor am y gydberthynas rhwng cymeradwyo profion newydd gan UKGTN a'u comisiynu wedyn gan GIG yr Alban.
4 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 10
4.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i drafod eitemau 6, 7 ac 8 cyn trafod eitem 5.
5 Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 11
5.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
5.2 Cytunodd Lars Sundstrom, Rhwydwaith Gwyddorau Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr, i ddarparu nodyn ar y system newydd sydd wedi'i chyflwyno yn Lloegr (sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru), sy'n caniatáu mynediad at gyllid ac yn rhoi ffordd o gomisiynu gwaith ymchwil a datblygu drwy'r system gofal iechyd.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd blaenorol.
6.1 Llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio mewn perthynas â chamau gweithredu sy’n deillio o gyfarfod y Pwyllgor ar 30 Ionawr 2014
6a.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Swyddog Nyrsio.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i drafod eitem 8 yn breifat.
8 Trafod ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i lythyr y Pwyllgor ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau’r risg o strôc
8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch yr ymchwiliad dilynol i leihau'r risg o strôc.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'n trafod camau gweithredu yn ei gyfarfod cyhoeddus ar 20 Mawrth 2014.